Rhif y ddeiseb: P-06-1290

Teitl y ddeiseb: Galluogi trigolion Cymru i gael mynediad at lwybr diagnosis "Hawl i Ddewis" y GIG ar gyfer ADHD

Geiriad y ddeiseb:

Yn wahanol i Loegr, ar hyn o bryd nid oes "Hawl i Ddewis" yng Nghymru o ran galluogi unigolion i ddewis yr ysbyty neu'r gwasanaeth lle’r hoffent gael eu triniaeth GIG. Mae’r Hawl i Ddewis o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn Lloegr wedi bod ar waith ers 2018, gan roi’r cyfle i oedolion sy’n ceisio asesiad ar gyfer ADHD ddewis darparwr arall pe baent yn penderfynu bod yr amser aros am eu hasesiad GIG yn rhy hir. Gwahaniaethir yn erbyn trigolion Cymru am fod yng Nghymru.

 


1.        Cefndir

Dewis i gleifion

Yn Lloegr, mae gan gleifion yr hawl i ddewis i ba ysbyty y bydd eu meddyg teulu yn eu hanfon. Mae hyn hefyd yn berthnasol i drigolion Cymru sydd yn byw mewn ardaloedd ar y ffin ac sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr. Mae'r hawl gyfreithiol hon yn caniatáu i gleifion ddewis unrhyw ysbyty yn Lloegr sy'n cynnig triniaeth addas sy'n cyrraedd safonau ac o fewn costau'r GIG. Mae gwefan ADHD UK yn darparu rhagor o wybodaeth am yr hawl i ddewis yn Lloegr mewn perthynas ag asesiadau ADHD. 

Nid yw'r GIG yng Nghymru yn gweithredu system o roi'r dewis i gleifion, ond mae'n ceisio darparu gwasanaethau yn agos at gartref y claf pan fo hynny'n bosibl. Nid oes gan gleifion sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru hawl statudol i ddewis i ba ysbyty y cânt eu hanfon. Mae'r un peth yn wir hefyd am gleifion o Loegr sydd â'u meddyg teulu yng Nghymru. Yng Nghymru, dim ond os nad yw'r driniaeth sydd ei hangen arnynt ar gael yn yr ardal lle maent yn byw y caiff cleifion eu hatgyfeirio i ddarpariaeth y tu allan i'r ardal honno.

Gwybodaeth am ADHD

Mae ADHD yn gyflwr niwroddatblygiadol (hynny yw, mae’n bresennol o enedigaeth). Mae'n effeithio ar tua 1 o bob 20 o bobl, er y gallai nifer yr achosion fod yn uwch yn sgil tan-ddiagnosis neu gamddiagnosis. Mae'n aml yn cyd-ddigwydd â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, fel awtistiaeth. 

Gall achosion o ADHD nad ydynt yn destun diagnosis neu gymorth arwain at ganlyniadau iechyd corfforol a meddyliol gwaeth i’r rhai yr effeithir arnynt. Mae plant sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol fel ADHD yn profi cyfraddau uchel o waharddiadau o'r ysgol, methiant addysgol, chwalfa deuluol, a chamddefnyddio sylweddau.

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn wynebu amseroedd aros hir (blynyddoedd yn aml) am asesiad a diagnosis. Yn sgil hynny, mae rhai teuluoedd yn talu'n breifat am asesiad. Gall yr amseroedd aros hir hefyd fod yn broblem benodol i bobl ifanc sy'n nesáu at yr oedran pan fyddant yn pontio i wasanaethau oedolion, lle gallai'r trothwyon ar gyfer sicrhau cymorth fod yn uwch.  

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Cafodd ffrwd waith gwasanaeth niwroddatblygiadol Cymru gyfan ei lansio yn 2015/16, a hynny o dan y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (T4CYP). Cafodd timau niwroddatblygiadol amlddisgyblaethol eu sefydlu, a chafodd llwybr asesu a diagnosis niwroddatblygiadol ei gyhoeddi. Roedd y ddogfen hon yn nodi chwe safon, a'i nod oedd datblygu dull cyson o asesu ledled Cymru.  

Ym mis Tachwedd 2019, cafodd y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc ei hymestyn tan 2022, gyda chylch gwaith wedi’i ailffocysu. Roedd gwasanaethau niwroddatblygiadol yn un o dri maes allweddol a amlygwyd, gydag amcan i roi rhagor o gymorth i fyrddau iechyd at ddibenion rhoi’r llwybr a’r safonau ar waith, a chefnogi’r broses o ddatblygu ymateb system gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol. Daeth y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc i ben ym mis Mawrth 2022, er bod rhywfaint o waith gwaddol yn parhau tan fis Medi 2022. Mae hyn yn cynnwys ystyried canfyddiadau adolygiad a gynhaliwyd ynghylch y galw am wasanaethau niwroddatblygiadol ar gyfer pob oed, a chapasiti’r gwasanaethau hynny. Cafodd adroddiad cryno ynghylch yr adolygiad hwnnw ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022.

Cafodd y cyfrifoldeb dros wasanaethau niwroddatblygiadol ei symud yn ddiweddar i bortffolio Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol (yn flaenorol, roedd y cyfrifoldeb hwn yn eistedd gyda Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant). Mewn datganiad ar 6 Gorffennaf 2022, cydnabu’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwasanaethau niwroddatblygiadol dan bwysau, a bod y sefyllfa hon wedi gwaethygu yn sgil y pandemig. Dywedodd:

Mae mwy o ymwybyddiaeth o awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill wedi arwain at alw cynyddol am asesu a chymorth, sydd yn anffodus wedi arwain at amseroedd aros hirach a bylchau yn y ddarpariaeth, y mae angen mynd i’r afael â hwy ar frys.

Mae llythyr y Dirprwy Weinidog at y Pwyllgor Deisebau am y ddeiseb hon yn cyfeirio at ei datganiad ar 6 Gorffennaf, a’r broses o gyflwyno rhaglen wella newydd ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol, sy’n cael ei hategu gan swm o £12 miliwn i wella amseroedd aros, gwasanaethau a chymorth i deuluoedd.

Gan fod byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau megis asesiadau ADHD, bydd y Cynllun Gwella yn archwilio sut y mae byrddau iechyd yn darparu eu gwasanaethau ar hyn o bryd, gan gynnwys yr ymateb i ddiagnosis preifat, sef mater a godwch yn eich llythyr. (…)

Byddaf yn monitro cyflwyniad y rhaglen yn agos ac mae Grŵp Cynghori newydd y Gweinidog ar gyflyrau niwroddatblygiadol wedi’i sefydlu. Bydd y grŵp hwn yn rhoi cyngor i mi ar gynnydd, ar feysydd o arfer gorau a ddaw i’r amlwg, ar opsiynau cyllido ac ar unrhyw faterion eraill a all fod o werth i unigolion niwrowahanol yng Nghymru. 

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Gwnaeth yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Enrill 2022, sef Aros yn iach?  Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru, ddau argymhelliad mewn perthynas â gwasanaethau niwroddatblygiadol. Mae’r rhain wedi’u nodi isod, ynghyd ag Ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion hyn:

Argymhelliad 5 y Pwyllgor: Pan fydd yn rhannu canfyddiadau’r adolygiad o gapasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol a’r galw amdanynt â ni, dylai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd nodi sut a phryd y caiff unrhyw argymhellion a wneir gan yr adolygiad eu rhoi ar waith a sut y caiff eu heffaith ei monitro. 

Ymateb Llywodraeth Cymru: (…) Rydym yn ystyried y camau sydd angen eu cymryd, a byddwn yn gwneud datganiad pellach cyn bo hir yn cadarnhau’r cymorth brys y byddwn yn ei ddarparu i leihau’r pwysau presennol ar wasanaethau asesu. Yn ystod gweddill y tymor hwn, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr a’r rhai sy’n chwilio am gymorth i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy sy’n darparu mynediad amserol ac sy’n gallu darparu gofal pwysig cyn ac ar ôl asesiad, trwy ddefnyddio dull cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Argymhelliad 6 y Pwyllgor: Dylai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn hydref 2022 am ba gamau sydd wedi’u cymryd i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw wahaniaethau yn yr amser a gymerir yng Nghymru i roi diagnosis i fenywod a gwrywod sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth. 

Ymateb Llywodraeth Cymru: Mae casglu data cywir a llawn gwybodaeth yn allweddol; nid yw’r targed amseroedd aros presennol yn addas i’r diben ac nid yw’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i gynllunio a darparu gwasanaethau cyflyrau niwroddatblygiadol, ac mae hyn yn cynnwys yr angen i allu dadgyfuno data asesu yn ôl rhyw. Fel rhan o’r gwelliannau sydd i’w cyflwyno gennym, byddwn yn ail-gynllunio’r broses casglu data fel ei bod yn darparu gwybodaeth bwysig sy’n gallu ein helpu i nodi i ba raddau y mae gwasanaethau’n cyflawni, ac a oes unrhyw anghydraddoldebau o ran asesu. 

Mae niwrowahaniaeth (sy’n cynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol fel ADHD ac awtistiaeth) hefyd yn thema allweddol yn ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i anghydraddoldebau iechyd meddwl.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.